GWEITHIWR CYMORTH
Lleoliad – Y Felinheli, Gwynedd
Contract – Llawn Amser
Math o Rôl – Parhaol
Oriau Gweithio Wythnosol – 37.5
Cyflog – 13.45
Dyddiad Cau – Dydd Iau, 30 Medi 2026
Gweithiwr Cymorth
Complete Care & Enablement & CareTech Community Services Ltd
Lleoliad: Y Felinheli, GwyneddTâl: £13.45 yr awr a hefyd £62.64 lwfans cysgu mewnOriau: Parhaol, Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos, ar sail rota)
Cofiwch: Efallai na allwn gefnogi ceisiadau os yw cyfyngiadau fisa’r Swyddfa Gartref yn atal ymgeiswyr rhag gweithio’r oriau cytundebol llawn neu ofynion llawn y rôl.
Mae’r Iaith Gymraeg yn Hanfodol
Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd
Yn CareTech, teimlwn yn gryf iawn am ddarparu Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd drwy gymorth person-ganolog o ansawdd uchel. Grymuswn unigolion i fod yn fwy annibynnol, i fagu hyder a dysgu sgiliau bywyd a byw bywydau bodlon yn eu cymunedau.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithwyr Cymorth i ymuno â’n tîm ymroddedig yn Y Felinheli, Gwynedd, yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anghenion iechyd meddwl, a chyflyrau niwrolegol.
P’un ai ydych yn Weithiwr Cymorth profiadol neu’n ystyried gyrfa werth chweil mewn gofal, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Amdan y Gwasanaeth
Mae Complete Care & Enablement yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru gydag awtistiaeth, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, ac anghenion niwrolegol. Mae ein ffocws ar helpu unigolion i fyw mor annibynnol â phosib ond gan dderbyn y cymorth wedi’i deilwrio sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Fel Gweithiwr Cymorth, bydd gennych rôl hanfodol mewn cyfoethogi bywydau pobl, hybu lles a gwneud gwahaniaeth ystyrlon pob dydd.
Cefnogi Pobl i Fwynhau Bywyd
Mae’r bobl a gefnogwn yn mwynhau ystod eang o weithgareddau, a byddwch yn helpu i wneud hyn yn bosib, gan gynnwys drwy:
Celf a chrefftGweithgareddau hamdden ac adloniantDiwrnodau allan, prydau bwyd a digwyddiadau cymdeithasolYmweld â pharciau themaGwyliau a thripiau byrGweithgareddau awyr agoredGweithgareddau hỳb cymunedolCoginio a phobi i ddatblygu sgiliau bywyd
Y Rôl
Fel Gweithiwr Cymorth, byddwch yn:
Darparu cymorth person-ganolog wedi’i deilwrio i anghenion y personHelpu gyda sgiliau byw pob dydd a gofal personol pan fo angenHyrwyddo annibyniaeth, urddas, a llesCefnogi unigolion i fynychu gweithgareddau, apwyntiadau, a mynd i’r gymuned leolCadw cofnodion a gwaith dogfennol cywirGweithio’n gydweithredol fel rhan o dîm cefnogolCyfrannu at rota sy’n cynnwys nosweithiau, penwythnosau, gwyliau banc, ac aros nos
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am bobl sydd yn:
Gofalgar, amyneddgar a pharchusPositif, gwydn a dibynadwyCyffyrddus yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîmCyfathrebu’n hyderus a gyda sgiliau TG ac ysgrifenedig sylfaenolTeimlo’n gryf am helpu eraill i gyflawni eu hamcanion
Dim profiad gofal blaenorol? Dim problem. Byddwn yn darparu rhaglen lawn o hyfforddiant a chynefino cynhwysfawr.
Gofynion Hanfodol
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodolTrwydded yrru lawn y DUYn barod i weithio oriau anghymdeithasol ar sail rotaYmrwymiad i ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolGwiriad DBS estynedig (CareTech yn talu)
Beth a Gynigiwn
Bonws Croeso £250*Cynllun Bonws Argymell Ffrind*Hyd at 28 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc)Gwiriad DBS am ddimCerdyn Golau GlasPensiwn RhanddeiliaidRhaglen Cymorth i Weithwyr am ddimNoson Wobrwyo Gweithwyr FlynyddolCynlluniau Cydnabod GweithwyrHyfforddiant a datblygiad parhausCyfleoedd clir i ddatblygu eich gyrfa, gan gynnwys cymwysterau hyd at lefel graddGrantiau Sylfaen CareTech i deulu a ffrindiau
*Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Talwn y bonysau ar ôl i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.
Ein Gwerthoedd
Yn CareTech, mae popeth a wnawn wedi’i dywys gan ein gwerthoedd:
CyfeillgarCadarnhaolArloesolGrymusolPerson-Ganolog
Amdan CareTech
Wedi’i sefydlu yn 1993, CareTech yw un o brif ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg arbenigol y DU. Ers dros 30 o flynyddoedd, rydym wedi darparu cymorth person-ganolog o ansawdd uchel i bobl ag anghenion cymhleth. Dan arweiniad ei sefydlwyr, Haroon a Farouq Sheikh, mae CareTech yn parhau i ddarparu sefydlogrwydd hirdymor, parhad ac ymrwymiad dwfn i’r bobl a gefnogwn.
Mae CareTech Community Services yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
Ymgeisiwch Heddiw
Ymunwch â sefydliad cyfeillgar a grymusol sy’n teimlo’n gryf am wneud gwahaniaeth a chreu Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd.
Cofiwch: Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, byddwn ond yn cysylltu ag ymgeiswyr rhestr fer o fewn 7-10 diwrnod.
Efallai y bydd angen ymgeiswyr gwrywaidd neu fenywaidd yn unig i rai rolau lle bo’n ofyniad galwedigaethol diffuant o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Dim asiantaethau o gwbl.
Y Felinheli – Support Worker (SYS-27783)
…
