Teacher (Mathematics) – Ysgol Bro Teifi

Company: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Apply for the Teacher (Mathematics) – Ysgol Bro Teifi
Location: Llandysul
Job Description:

The following is an advert for a position where the ability to work and converse through the medium of Welsh is essential.

Dyddiad Dechrau: Ionawr 1af 2027

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’n cyfadran Fathemateg fel Athro/Athrawes Mathemateg ar gytundeb parhaol. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Addysgu gwersi Mathemateg ar draws yr ystod oed uwchradd.
  • Angerddol dros eu pwnc ac at ddysgu
  • Yn barod i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
  • Addysgwr rhagorol
  • Ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.

O weithio yn ein hysgol, cewch fynediad at yr adnoddau dysgu modern, diweddaraf wedi eu darparu mewn ystafelloedd dysgu pwrpasol. I cefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.

Pecyn Gwybodaeth

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: September 20th, 2026