Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw: Temporary Part time Teacher Swansea, Not specified

Company: Educators Wales
Apply for the Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw: Temporary Part time Teacher Swansea, Not specified
Location: Newton
Job Description:

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw: Temporary Part time Teacher

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw

West Cross LaneWest CrossAbertaweSA3 5LS

Phone: 01792 407130

E-bost/E-Mail: (email protected)

Gwefan / Website: https://www.yggllwynderw.co.uk

Pennaeth/Head Teacher: Mrs Rachel Collins

Dylai’r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o’r radd flaenaf er lles ein disgyblion.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd dros addysg Gymraeg.
  • fod yn athro/athrawes â phersonoliaeth bositif, sy’n mwynhau gweithio gyda phlant ac yn ymarferydd â safonau uchel.
  • weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
  • feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am addysgeg a chyda sgiliau dysgu o safon uchel a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
  • ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous ac yn datblygu profiadau disgyblion yn unol â Chwricwlwm i Gymru.
  • ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr Ysgol.

Gallwn gynnig i chi:

  • ysgol hapus a chroesawgar
  • tîm o staff blaengar ac arloesol
  • disgyblion gweithgar a chwrtais
  • ysgol sydd â gwerthoedd cadarnhaol sydd wrth wraidd popeth
  • datblygiad proffesiynol heb ei hail.

Dychwelwch eich ffurflen gais drwy e bost yr ysgol ((email protected)) neu trwy ei yrru at sylw’r Pennaeth i gyfeiriad yr ysgol.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw “Busnes Pawb yw Diogelu”, ac mae hyn yn berthnasol i holl gweithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.

Diogelu: Mae’r Awdurdod yn unol â’r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae’r Awdurdod yn disgwyl i’r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae’r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl

#J-18808-Ljbffr…

Posted: July 23rd, 2026