Cydymaith Ymchwil Therapydd Iaith a Lleferydd (Cyfrwng Cymraeg) (2526567)

Company: Cardiff Metropolitan University
Apply for the Cydymaith Ymchwil Therapydd Iaith a Lleferydd (Cyfrwng Cymraeg) (2526567)
Location: Cardiff
Job Description:

Er mwyn cefnogi ein prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru (Prosiect Pengwin) ar gyfer datblygu a gwerthuso offeryn gwyliadwriaeth dwyieithog ar gyfer datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, mae angen therapydd iath a lleferydd (ThILl) profiadol sy’n siarad Cymraeg wedi’i leoli yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin, neu Geredigion. Byddwch yn cefnogi’r tîm gyda chasglu data ac asesu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

  • Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn casglu data ar gyfer y prosiect.
  • Byddwch yn rhoi barn glinigol ar anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant dan 5 oed.
  • Byddwch yn casglu ac yn rhannu casglu data ar gyfer y prosiect gydag aelodau eraill o dîm y prosiect yn unol â phrotocolau ymchwil.
  • Byddwch yn cyfrannu mewnwelediad proffesiynol at ddatblygiad yr offeryn gwyliadwriaeth.
  • Byddwch yn cefnogi’r tîm ymchwil i gwmpasu sampl amrywiol o siaradwyr Cymraeg a Saesneg ledled Cymru.
  • Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu set ddata Cymraeg ar gyfer plant sy’n cael eu magu yng Nghymru.

Beth Fyddwch Chi’n Ei Gyfrannu

Sgiliau pobl gwych a phrofiad o weithio gyda phlant blynyddoedd cynnar, byddwch yn gallu cyfrannu a chefnogi’r prosiect cyffrous hwn a fydd yn cynnwys y Gymraeg a dwyieithrwydd yn natblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Bydd eich profiad o weithio mewn lleoliadau ThILl yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau clinigol effeithiol, gan sicrhau bod ein hofferyn terfynol yn ddilys ac yn gadarn.

Bydd eich gwybodaeth am eich ardal leol yn amhrisiadwy wrth i ni ddewis cyfranogwyr sy’n cynrychioli demograffeg Cymru.

Er mwyn bodloni anghenion y rôl hon bydd angen i chi fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd cofrestredig gyda’r HCPC. Mae’r rôl yn gofyn am deithio i ac o leoliadau cyfranogwyr ac felly rydym yn mynnu bod gennych drwydded yrru lawn y DU.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn brifysgol sy’n seiliedig ar werthoedd. Rydyn ni’n falch o’n diwylliant ac rydyn ni yno i’n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw’r sail i’n gwerthoedd a’n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy’n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â’n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda’ch datblygiad gyrfa.

  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
  • Polisïau rhagorol sy’n gyfeillgar i deuluoedd – cymerwch olwg ar eu tudalen Hwb Polisi.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at eu darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Dr Rhonwen Lewis ar rholewis@cardiffmet.ac.uk, neu mae croeso i chi e-bostio Name, y Cynghorydd Recriwtio sy’n cefnogi’r swydd wag hon.

Dyddiad Cau: 04 Sep 2026

Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £39,906 to £44,746 £20.68 yr awr ynghyd â thâl gwyliau 18%

Achlysurol

#J-18808-Ljbffr…

Posted: August 9th, 2026