Customer Relations Assistant

Company: Senedd
Apply for the Customer Relations Assistant
Location: Cardiff
Job Description:

Mae’r swydd hon yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, sy’n sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael y profiad gorau posibl o’r Senedd. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i’r cyhoedd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn darparu cymorth i’r rhai sy’n ymweld i gymryd rhan ym musnes y Senedd neu ei wylio.

Gan adrodd i Reolwr y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gohebu â’r cyhoedd ac Aelodau o’r Senedd, ynghylch ceisiadau am wybodaeth am ymweliadau a chanfod y ffordd, agenda busnes y Senedd, digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu amrywiol a drefnir gan y Senedd.

Mae’r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i’ch helpu yn eich rôl.

  • Darparu gwasanaeth derbynfa croesawgar i ymwelwyr â’r ystâd, cysylltu â staff perthnasol y Senedd a’i Haelodau, a chefnogi mynediad i’r ystâd; gan gynnwys drwy roi pasys ymwelwyr.
  • Cydweithio ag eraill yn y tîm i greu gwybodaeth a chynnwys perthnasol ar gyfer ymwelwyr, megis arddangosfeydd sy’n hysbysu’r hyn sy’n cael ei drafod.
  • Cysylltu â staff Diogelwch, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a staff y Senedd, er mwyn sicrhau mynediad di-dor i grwpiau ysgol, pwysigion ac urddasolion sy’n ymweld.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am fusnes y Senedd, materion cyfoes a materion gwleidyddol drwy gyfryngau cymdeithasol, digidol ac ysgrifenedig.
  • Hyrwyddo a threfnu ymweliadau ar ystâd y Senedd ac oddi arni. Neilltuo seddi i’r cyhoedd yn y Cyfarfod Llawn ac mewn cyfarfodydd pwyllgor, gan sicrhau bod yr holl ofynion mynediad yn cael eu hateb.
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm Ymgysylltu ag Ymwelwyr i sicrhau bod profiad yr ymwelydd yn un perthnasol, dibynadwy ac mor ymgysylltiol â phosibl.
  • Ateb ymholiadau ac ymdrin â gofynion sy’n gwrthdaro a sensitifrwydd gwleidyddol wrth ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Bydd y gwaith yn gyfuniad o ateb e-byst ac ateb ymholiadau wrth y dderbynfa wyneb yn wyneb. Bydd y rôl yn cynnwys yr angen i reoli eich amser a gweithio gyda’ch rheolwr llinell i benderfynu pa ymholiadau i’w blaenoriaethu.

Penodol i’r swydd:

  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a rhyngbersonol cryf: gallu addasu eich arddull a’ch ffordd o gyflwyno i ddiwallu anghenion yr ymwelydd;
  • Bod yn drefnus a thrylwyr: gallu cymryd gwybodaeth o ffynonellau amrywiol a rhoi arweiniad cryno, cyflym a pherthnasol i ymwelwyr;
  • Bod yn fedrus wrth ddefnyddio cymwysiadau neu feddalwedd cyffredin, systemau rheoli cynnwys, ac yn benodol: Microsoft Office 365 (Outlook, Teams, Sharepoint, ac Excel).

Meini prawf o ran y Gymraeg:

Mae’r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi’u hasesu fel a ganlyn:

  • Gwrando: Deall trafodaethau a chyfarwyddiadau hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd. (Lefel 4)
  • Siarad: Gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a siarad yn faith, gan gwneud hynny’n hyderus ac yn ddigymell. (Lefel 4)
  • Darllen: Deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel 4)
  • Ysgrifennu: Gallu ysgrifennu mathau gwahanol o destunau mewn arddulliau sy’n briodol i’r darllenydd mewn golwg. (Lefel 4)

Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.

I gael rhagor o wybodaeth am y lefelau gallu o ran y Gymraeg, ewch i’n gwefan.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: September 20th, 2026