Swyddog Tai a Chefnogaeth (cyfnod mamolaeth) / Supported Housing Officer (maternity cover)

Company: CIH International Housing Group
Apply for the Swyddog Tai a Chefnogaeth (cyfnod mamolaeth) / Supported Housing Officer (maternity cover)
Location: Penygroes
Job Description:

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy’n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni’n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae’r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni’n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni’n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni’n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Ydych chi’n angerddol am bobl, cymunedau a darparu gwasanaethau rhagorol? Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, cefnogi tenantiaid, a helpu i ddarparu gwasanaethau tai o’r safon uchaf yn ein cymunedau.

Byddwch yn:

  • Wyneb a llais Grŵp Cynefin, gan weithredu fel y prif gyswllt i denantiaid, Asiantau Rheoli, gweithwyr proffesiynol a chymunedau lleol.
  • Adeiladu perthnasoedd cryf ac yn cydweithio ag Asiantaethau Rheoli, darparwyr cefnogaeth a chydweithwyr i sicrhau bod tenantiaid yn derbyn gwasanaethau tai o’r safon uchaf, mewn amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol.
  • Chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cartrefi’n cael eu gosod yn effeithiol, bod incwm rhent yn cael ei uchafu, a bod materion megis ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu rheoli’n rhagweithiol ac yn sensitif.
  • Ymuno â thîm tai â chefnogaeth deinamig sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy’n canolbwyntio ar y tenant, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.
  • Grymuso tenantiaid drwy ddatblygu cyfleoedd ystyrlon i gymryd rhan, dylanwadu ar wasanaethau a helpu i lunio cymunedau cryfach a mwy bywiog.
  • Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
  • Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros dro, dros gyfnod mamolaeth

Cyflog: £29,779 y flwyddyn pro rata

Lleoliad: Penygroes / Gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Teithio: Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 22.10.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio’ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl Oedolion gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

#J-18808-Ljbffr…

Posted: October 1st, 2026