About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi dau Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd un o’r swyddi’n cefnogi disgyblion oed cynradd, a’r llall yn cefnogi disgyblion oed uwchradd, gan eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu a’u datblygiad. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol, a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi ein hegwyddorion craidd a gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Nodwch yn eich datganiad cefnogol a hoffech wneud cais am y swydd Cynradd, y swydd Uwchradd, neu’r ddwy swydd.
Manylion y swydd:
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi , yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar neu drwy e-bost, .
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you’ll work
Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
Llandysul Historically, Llandysul was the hub of the Welsh woollen industry where thousands of people were employed in the water driven mills during the industrial revolution.…
